Mae tecstilau'n cael eu gwerthfawrogi a'u casglu am lawer o resymau. Cedwir gwisgoedd priodas a dillad bedydd mewn teuluoedd a thrysorir hwy fel eiddo etifeddol; yn yr un modd mae llawer o bobl yn dymuno cadw gwisgoedd neu ddillad baban ar gyfer yr oesau a ddêl. Er y gwerthir gwisgoedd hanesyddol, sampleri a thecstilau eraill fwyfwy mewn ocsiynau, nid yn aml y mae'r prisiau'n cymharu â'r prisiau am baentiadau neu gerfluniau. Mae gwerth tecstilau yn eu perthynas â pherson neu le, neu ddiddordeb yn y gwrthrychau eu hunain a'u gwneuthuriad.
Mae'r mwyafrif o'r gwisgoedd y deuir ar eu traws yn y DU yn dyddio o ganol y 18fed ganrif hyd y dydd heddiw; prin iawn yw'r dillad sydd yn dyddio o gyfnod cynt na hyn. Roedd unwaith farchnad i ddillad ail law ac felly dim ond y rhai sydd o werth arbennig neu werth sentimental a gadwyd; hyn sydd yn cyfrif am y nifer fawr o wisgoedd priodas, ffrogiau nos a dillad bedydd sydd mewn llawer o gasgliadau mewn amgueddfeydd.
Cyn i chi roi rhywbeth mewn bocs dillad gwisgo i fyny, neu benderfynu ei wisgo bob dydd, gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod yn union beth ydy'r dilledyn. Mae tecstilau'n fwy tebygol o gael niwed wrth gael eu defnyddio nag unrhyw adeg arall. Os penderfynwch drin eich gwisgoedd fel gwrthrychau hanesyddol gwerthfawr, cadwch hwy mewn man ar wahân i'ch dillad eraill a pheidiwch â'u gwisgo o gwbl. Dyma rai o'r rhesymau pam:
Gall tecstilau fod mewn angen am ofal arbennig os am eu cadw ar gyfer y dyfodol. Mae'r tecstil mewn dilledyn fel arfer yn syrthio i un o dri chategori: protein (sidan a gwlân), seliwlos (cotwm, lliain, ramie) a synthetig (reion fiscos, neilon, polyester, ayb). Mae'r deunyddiau eraill ar wisgoedd, nad ydynt yn decstil, yn cynnwys gwydr, plastigau, cerameg, metel, gelatin, pren, gwellt, lledr, rwber, ac asgwrn morfil.
Mae tecstilau mewn perygl arbennig pan fydd rhywun yn eu byseddu neu'n eu symud. Yn gyffredinol dylid eu cyffwrdd cyn lleied ag y bo modd, yn arbennig yr elfennau metel, gan fod cyffwrdd â hwy â dwylo noeth yn eu marcio'n hawdd. Pan mae rhaid i chi gyffwrdd â thecstilau gellir lleihau'r perygl o wneud niwed iddynt drwy eu gosod mewn man glân lle mae digon o le. Gwisgwch fenig cotwm neu finyl tenau a thynnwch eich gemau rhag iddynt fachu. Cadwch bob bwyd a diod yn ddigon pell a pheidiwch â defnyddio pinnau ysgrifennu na marcwyr yn agos atynt. Ysgrifennwch ar labeli mewn pensil.
Pan fyddwch yn meddwl am symud gwisgoedd neu decstilau eraill, cynlluniwch y dasg ac ystyriwch y risgiau. Daliwch bwysau'r gwrthrych wrth ei symud (gellir symud tecstilau bach ar fyrddau neu ddalenni o bapur; gellir rholio tecstilau mwy o gwmpas tiwb) a gwnewch yn siwr bod gennych le glân a diogel i'w symud iddo. Os daw darn o'r gwrthrych neu addurn yn rhydd, cadwch ef gyda'r eitem mewn papur sidan di-asid neu mewn bag bach ac ymgynghorwch â chadwraethwr mor fuan ag y bo modd.
Mae golau, baw, lleithder cyfnewidiol a phryfaid yn medru achosi difrod. Peidiwch â gadael gwisgoedd yn y golau, yn enwedig golau dydd (sydd yn cynnwys ymbelydredd uwchfioled) ddim hwy na sydd raid. Dylid eu harddangos, neu eu cadw dan amodau normal y cartref, am gyfnodau cyfyngedig ar y tro. Fe welir, drwy gymharu blaen a chefn y tecstil neu ddarnau amlwg a darnau cudd, a yw'r golau wedi ei niweidio. Ni ellir gwneud dim i adfer y lliw unwaith y bydd wedi pylu a gall fod yn arwydd fod difrod wedi digwydd i ffibrau'r tecstil.
Ceisiwch gadw lefelau'r lleithder yn sefydlog (er enghraifft, allan o wres canolog uchel). Mae awyrgylch llaith (mwy na 65% o leithder cymharol) yn hybu llwydni a gall gwres wneud tecstilau'n frau. Gall amodau amgylcheddol gwael hybu pryfaid a phlâu eraill. Archwiliwch y tecstil bob mis i weld a oes pryfaid neu broblemau eraill. Mae larfae gwyfynod dillad a chwilod carpedi yn arbennig o niweidiol i decstilau.
Y ffordd orau o gadw gwisgoedd a thecstilau'n ddiogel yw sicrhau eu bod yn cael eu storio'n iawn pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Dylid cadw eitemau mewn lle glân, sych a thywyll a gwneud yn siwr bod modd mynd atynt yn hawdd i'w harchwilio. Dylid eu lapio a'u gorchuddio gymaint ag y bo modd i'w cadw rhag llwch, gan fod llwch yn aml yn asidig ac yn denu lleithder a phryfaid.
Os yw dilledyn mewn cyflwr da gellir ei hongian ar hongiwr sydd wedi ei badio. Defnyddiwch wadin polyester (nid math gwrth-fflam) a gorchuddiwch â ffabrig arall, cotwm pur wedi ei olchi a heb ei gannu os oes modd. Nid yw hongian bob amser yn addas gan y gall hynny wneud i'r dilledyn fynd allan o'i siâp; os yw'n fregus, neu os oes addurn trwm arno (megis gwisg 'flapper'), neu os yw'r defnydd wedi ei dorri ar y bias (llawer o wisgoedd y 1930au) mae'n well eu storio'n fflat. Paciwch yr eitemau hyn mewn bocs cryf di-asid sydd mor fawr ag y bo modd er mwyn osgoi plygu'r dilledyn yn ormodol. Cyn belled ag y bo modd, dylid cadw eitemau mewn bocsys neu eu gorchuddio; mae hyn yn eu gwarchod rhag golau, llwch a gormod o fyseddu. Dylid labelu'r bocsys er mwyn ei gwneud yn hawdd dod o hyd i'r gwrthrychau.
Peidiwch â cheisio golchi dim byd gyda glanedydd na channydd masnachol. Cofiwch nad oedd gwyn, hyd yn ddiweddar, mo'r gwyn optegol llachar a ddisgwyliwn heddiw. Mae cannu'n gwanhau'r defnydd ac mae glanedyddion cyfoes ar gyfer y deunyddiau modern; maent yn cynnwys disgleiryddion optegol ac ensymau sydd yn aros yn y tecstil a gall wneud difrod i rai brau. Gall hyd yn oed sebon pur gynnwys gormod o alcali ac achosi problemau. Mae'r ystod o hydoddyddion sydd ar gael i sychlanhawyr masnachol yn llawer llai nag y bu, oherwydd y ddeddfwriaeth gaeth o ran iechyd a diogelwch. Golyga hyn bod y dillad, ar ôl iddynt gael eu glanhau, yn cael eu rhoi mewn siambr boeth i gael gwared â'r hydoddydd gormodol, a chaiff hwnnw wedyn ei ffiltro a'i ailddefnyddio nifer o weithiau.
Defnyddiwch y Gofrestr Gadwraeth ('Conservation Register') a chlicio ar Find a conservator.
© Icon, y Sefydliad Cadwraeth 2011.
Yn yr erthygl cynigir cyfarwyddyd cyffredinol ac ni fwriedir i hynny gymryd lle cyngor proffesiynol gan gadwraethwr achrededig. Safbwyntiau'r awdur neu'r awduron a fynegir, ac nid ydynt o angenrheidrwydd yn cyd-fynd â safbwyntiau'r Sefydliad Cadwraeth. Dymuna'r Sefydliad Cadwraeth gydnabod iddo ddefnyddio 'Ours for Keeps' sef cyhoeddiad MGC a'r daflen 'Caring for Historic Textiles' gan UKIC wrth baratoi'r testun hwn. Nid yw'r Sefydliad Cadwraeth a'i bartneriaid yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a ddigwydd os dilynir y cyfarwyddyd hwn.
Dymuna'r Sefydliad Cadwraeth gydnabod cefnogaeth Comisiwn Brenhinol Arddangosfa 1851 wrth gynhyrchu'r cyfarwyddyd hwn. Mae mwy o wybodaeth am Gomisiwn Brenhinol Arddangosfa 1851 a'i waith ar gael ar y wefan www.royalcommission1851.org.uk.
Mae'r Sefydliad Cadwraeth yn ddiolchgar i CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, am hwyluso'r cyfieithiad o'r canllawiau yma.