Gall ffotograffau fod yn wrthrychau diwylliannol pwysig iawn ac eto ychydig o bobl sydd yn meddwl am funud mor amrywiol y gallant fod. Gall ffotograffau fod yn ddelweddau negatif neu bositif; mae'r mwyafrif ar bapur, gwydr neu ffilm, ond weithiau ar fetel, lledr neu decstil. Yn aml mae fframiau, albymau, casys a hyd yn oed emwaith yn gysylltiedig â hwy. Yn y mwyafrif o ffotograffau, y sylwedd sydd yn ffurfio'r ddelwedd yw arian ond ceir llifynnau a phigmentau mewn lluniau lliw a phrintiadau digidol.
Mae ffotograffau'n aml yn cynnwys nifer o haenau, a phob haen yn cynnwys gwahanol sylweddau sydd yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd. Oherwydd y strwythur cymhleth hwn, mae rhai mathau o ddirywiad na ellir eu trin. Felly, yr ateb i hynny yw i'r perchennog geisio atal y problemau rhag codi.
Mae dewis y mathau iawn o bapur a phlastig yn gost effeithiol a bydd yn sicrhau na fydd eich casgliad yn dirywio. Dylai'r papurau a'r byrddau a ddefnyddir wrth fframio neu i gadw'r ffotograffau ynddynt fod o safon uchel er mwyn osgoi problemau yn y dyfodol - dylent fod yn gotwm 100%, heb fod yn ddeunydd byfferog (h.y. pH niwtral ac nid yn asid nac yn alcali) a heb unrhyw amhuredd. Y deunyddiau a ddefnyddir fwyaf ac a argymhellir gan amgueddfeydd yw:
Er i berson gadw at y canllawiau uchod, gall fod yn berchen ar ffotograffau sydd eisoes wedi dirywio. Os na wneir gwaith cadwraeth ar ffotograff a gafodd niwed, gall difrod pellach ddigwydd. Dylid cofio y gall llawer o fathau o niwed waethygu yn sgil ymdrech amaturaidd i'w cywiro, waeth pa mor dda yw'r cymhellion, a gall hynny arwain at gost ychwanegol am waith proffesiynol.
Dylid trin cesys, fframiau ac albymau fel rhan annatod o'r ffotograff(au) sydd ynddynt ac mae'n bwysig cadw'r holl arteffact yn gyfan. Er enghraifft, os yw'r cas yn cael ei adael wedi torri, gall ffotograff ddisgyn allan o'r cas a chael ei grafu. Felly os oes difrod wedi digwydd i'r gwrthrychau cysylltiedig hynny dylid cael cadwraethwr i ymdrin â hynny; nod y broses gadwraeth yw sicrhau y cedwir y ffotograff gwreiddiol yn ei gyfanrwydd yn ei gyd-destun.
Mewn rhai achosion, prin y bydd modd gweld canlyniad y broses gadwraeth. Er enghraifft, bydd deunyddiau cadwraeth o safon yn cael eu gosod yng nghefn y ffrâm neu'r cas gwreiddiol fel rhan o'r atgyweirio - gan ddiogelu'r ffotograff ar gyfer yr oesau a ddêl. Weithiau gall y gwaith fod yn fwy dramatig, er enghraifft tynnu cryn dipyn o faw oddi ar y llun er mwyn cael gweld y manylion a guddiwyd.
Mae un math o niwed, yn anffodus, na ellir ei atgyweirio, sef pylu a tharneisio. Gall hyn achosi i lawer o'r manylion fynd ar goll o'r llun ac wedi iddo ddigwydd does dim y gellir ei wneud. Felly mae'r cyngor a roddwyd uchod ynglyn â gofalu am ffotograffau yn arbennig o bwysig. Y cyfan y gall cadwraeth ei wneud yw helpu i gadw'r hyn sydd ar ôl ond bydd cadwraethwr yn medru cynnig cyngor pragmatig am yr hyn y gellir ei wneud.
Os mai achos y pylu a'r tarneisio yw ansawdd y deunyddiau fframio, gall cadwraethwr proffesiynol ddiogelu'r llun a'i ail-fframio mewn deunyddiau o ansawdd da.
Nod cadwraeth yw dadwneud difrod, lle bo modd, a sicrhau cyn lleied ag y bo modd o ddirywiad yn y dyfodol.
Rhai cyflenwyr:
Conservation by Design Limited
Ffôn +44(0)1234 853555
Ebost info@conservation-by-design.co.uk
Papur pHoton™, plygellau Melinex®
Conservation Resources (UK) Ltd
Ffôn +44(0)1865 747755
Ebost conservArts@aol.com
Papur Silversafe®, plygellau Melinex®
John Purcell Paper
Ffôn +44(0)20 7737 5199
Ebost jpp@johnpurcell.net
Papur Argentia, Bwrdd Amgueddfa lled-wyn Heritage 100% TG
Secol Limited
Ffôn +44(0)1842 752341
Ebost sales@secol.co.uk
Plygellau Melinex®
Mae modd dod o hyd i gadwraethwr drwy ddefnyddio'r 'Conservation Register' a chlicio ar Find a conservator.
© Icon, y Sefydliad Cadwraeth 2011.
Yn yr erthygl cynigir cyfarwyddyd cyffredinol ac ni fwriedir i hynny gymryd lle cyngor proffesiynol gan gadwraethwr achrededig. Safbwyntiau'r awdur neu'r awduron a fynegir, ac nid ydynt o angenrheidrwydd yn cyd-fynd â safbwyntiau'r Sefydliad Cadwraeth. Nid yw'r Sefydliad Cadwraeth a'i bartneriaid yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a ddigwydd os dilynir y cyfarwyddyd hwn.
Dymuna'r Sefydliad Cadwraeth gydnabod cefnogaeth Comisiwn Brenhinol Arddangosfa 1851 wrth gynhyrchu'r cyfarwyddyd hwn. Mae mwy o wybodaeth am Gomisiwn Brenhinol Arddangosfa 1851 a'i waith ar gael ar y wefan www.royalcommission1851.org.uk.
Mae'r Sefydliad Cadwraeth yn ddiolchgar i CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, am hwyluso'r cyfieithiad o'r canllawiau yma.